Mae Trees for Cities yn dod a'r Goedwig Genedlaethol i ysgolion Caerdydd
Rydym yn trawsnewid meysydd chwarae ysgolion Caerdydd gyda’n rhaglen Meysydd Chwarae Iach, gan greu amgylcheddau dysgu seiliedig ar natur i blant Caerdydd ac ehangu'r Goedwig Genedlaethol i Gymru, sef menter genedlaethol gyffrous sy’n sicrhau bod coed yn hygyrch i bawb, yn cael eu plannu gan gymunedau, ar gyfer cymunedau.

Gwyrddu Ysgolion Caerdydd
Rydym wedi bod yn gweithio gydag ysgolion yng Nghaerdydd mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd ers 2020 ac rydym yn falch o ychwanegu at y prosiectau hyn drwy roi mwy o fudd i chwe ysgol yng Nghaerdydd a'u disgyblion eleni. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys plannu coed i ddarparu cysgod a glanhau'r awyr, a sefydlu mannau tyfu bwyd lle gall disgyblion ddysgu sut i dyfu a meithrin ffrwythau a llysiau organig.
Coetiroedd Bach
Ar y cyd â gerddi bwytadwy, mannau chwarae naturiol a chynefinoedd bywyd gwyllt, bydd ‘Coetiroedd Bach’ yn dod yn rhan o’r ailgynllunio ar bob Maes Chwarae Iach eleni, gan beilota'r defnydd o'r dull Miyawaki a ddatblygwyd yn Japan i greu lleiniau trwchus o gynefin coedwig trefol mewn fframiau amser byrrach mewn ysgolion. Yn y prosiect gan Earth Watch Ewrop, mae pob Coetir Bach yn cynnwys 600 o goed, gyda'r potensial i ddenu dros 500 o rywogaethau o blanhigion a bywyd gwyllt yn y tair blynedd gyntaf.

Rydym wedi derbyn grant o £240,000 gan y cynllun Coetiroedd Bach (Tiny Forests), a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a hwylusir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Yn ogystal â phlannu, bydd y grant hwn yn ein galluogi i redeg gweithdai ymgysylltu i ddisgyblion i ddatblygu eu hymwybyddiaeth o bwysigrwydd coed a'u rôl yn helpu i liniaru'r argyfwng hinsawdd.
Rydym yn falch iawn o dderbyn y cymorth hwn gan y Grant Coetiroedd Bach. Mae'r cyllid yn caniatáu i ni ehangu ein hymdrechion yng Nghaerdydd, gan drawsnewid meysydd chwarae ysgolion yn fannau gwyrddach, iachach. Mae pob plentyn yn haeddu cael mynediad at goed, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ysgolion i feithrin cysylltiadau agosach â natur.
Kate Sheldon, Prif Swyddog Gweithredol Trees for Cities
Ymgysylltu â Natur
Hyd yma, mae ein prosiectau ysgolion Meysydd Chwarae Iach yng Nghaerdydd wedi amlygu’r ffyrdd y gall maes chwarae gwyrddach helpu disgyblion i deimlo'n dda drwy ymgysylltu â natur. Mewn cyfres o gyfweliadau gyda'r disgyblion, dywedasant dro ar ôl tro eu bod yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel yn eu maes chwarae newydd. Adleisiodd staff yr ysgolion y teimladau hyn, a dywedodd un aelod o'r staff eu bod “yn dwli arno” ac yn teimlo “mor gynhyrfus â'r plant”.
Mae'r rhaglen Meysydd Chwarae Iach yn trawsnewid tiroedd ysgol yn erddi addysgu bywiog, ac yn darparu amgylchedd tawelol lle gall disgyblion reoli emosiynau negyddol ‒ dywedodd un disgybl “bob tro dwi'n teimlo'n rhwystredig, dwi'n gallu mynd i'r Maes Chwarae Bwytadwy [Iach]”.
Hyrwyddo addysg amgylcheddol
Y chwe ysgol gynradd yng Nghaerdydd fydd yn elwa ar Feysydd Chwarae Iach newydd yw Ysgol Y Wern, Ysgol Gynradd Greenway, Ysgol Gymraeg Glan Ceubal, Ysgol Gynradd Springwood, Ysgol Gynradd Pencaerau ac Ysgol Gynradd Trelai. Mae'r gwaith wedi dechrau ar greu'r meysydd chwarae, gan blannu gyda'r disgyblion a'u haddysgu am bob rhywogaeth o goed a sut fyddant yn datblygu gydag amser. Wedi i'r gwaith gosod orffen, byddwn yn rhedeg gweithdai gyda'r ysgolion i’w hyfforddi i ddefnyddio a monitro’u coetir trefol yn y ffordd orau tan ddiwedd 2025.
Rydym yn falch o gael dod â mannau gwyrdd a gwybodaeth mor werthfawr i'r cenedlaethau iau, gan feithrin newid parhaol a phlannu gobaith ar gyfer y degawdau i ddod.
Dsygwch fwy am sut gall ein Meysydd Chwarae bwytadwy feithrin lles meddyliol a darganfod ein rhaglen Coed i Ysgolion.