SDCau Mannau Chwarae

Ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ddisgyblion sy'n ymwybodol o ddwr

Caerdydd, Cymru

Drwy gydol hydref a gaeaf 2024/25, arweiniodd Trees for Cities gyfres o weithdai mewn chwe ysgol ar draws Caerdydd. Nod y sesiynau hyn oedd rhoi gwybodaeth i ddisgyblion ac athrawon ynglŷn ag arbed dŵr, newid hinsawdd a rôl hanfodol coed a phlanhigion wrth liniaru llifogydd dŵr wyneb.

Dysgu am liniaru llifogydd mewn ysgolion

Nod y prosiect oedd ceisio ysbrydoli cenhedlaeth newydd o unigolion sy'n ymwybodol o ddŵr ac sy'n deall effaith llifogydd a phwysigrwydd Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) – ymyriadau sy'n annog draenio naturiol drwy gopïo systemau dŵr fel gwlypdiroedd a phyllau i arafu llif dŵr a lliniaru'r perygl o lifogydd.  

Cymerodd bob ysgol ran mewn dau weithdy a gynlluniwyd i archwilio sut mae llifogydd dŵr wyneb yn effeithio ar eu hamgylchedd ysgol ac i gynnig atebion ar sail natur a allai liniaru’r effeithiau hynny. Roedd y gweithdai hyn yn cynnwys: 

  • Asesu Tiroedd Ysgolion: Arolygodd y myfyrwyr eu mannau chwarae, gan nodi'r ganran o fannau gwyrdd a’r mannau ag arwynebau athraidd ac anathraidd. Nodwyd lleoliadau oedd yn dueddol i byllau mawr a draeniau oedd yn gorlifo yn ystod glaw trwm. 
  • Mapio Coed ac Adnabod Rhywogaethau: Asesodd y disgyblion y rhywogaethau coed presennol a dysgu am goed ychwanegol y gellid eu plannu i gefnogi lliniaru llifogydd. 
  • Dylunio Mannau Chwarae SDCau: Gan ddefnyddio'u gwybodaeth newydd, dyluniodd y myfyrwyr fodelau o fannau chwarae SDCau, gan gynnwys atebion draenio a ysbrydolir gan natur. 
Stilltyds cardiff 22112024 A Gregan 12
Dysgu am arwynebau athraidd ac anathraidd yn Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant

Cynhaliwyd arolygon llinell sylfaen a llinell derfyn mewn sampl o ddwy neu dair ysgol a gadarnhaodd effeithiolrwydd y gweithdai hyn. Yn ôl y canlyniadau, gwelwyd twf sylweddol yn ymwybyddiaeth y disgyblion mewn nifer o feysydd allweddol: 

  • Cynnydd mewn ymwybyddiaeth o gadwraeth dŵr personol: Cafodd y disgyblion ddealltwriaeth well o weithredoedd syml i leihau'r defnydd o ddŵr ac atal gwastraff – fel cael cawodydd cyflym neu beidio â rhoi'r peiriant golchi/ golchi llestri ymlaen nes bod ganddynt lwyth llawn. 
  • Gwell dealltwriaeth o reoli dŵr mewn gerddi: Nodwyd cynnydd sylweddol yn y wybodaeth am arbed dŵr mewn gerddi, yn enwedig o ran lleihau'r defnydd o bibau dyfrhau, techneg na ddaeth i'r amlwg tan ar ôl y gweithdai. 
  • Gwybodaeth ehangach am y gwahanol fathau o lifogydd: Ymgynefinodd y disgyblion ag amrywiol fathau o lifogydd yn ogystal â dŵr wyneb yn cronni, fel llifogydd môr a llifogydd afonydd. 
  • Gwell ymwybyddiaeth o achosion a chanlyniadau llifogydd: Gwelwyd cynnydd yn y ddealltwriaeth o'r ffactorau sy'n cyfrannu at lifogydd dŵr wyneb fel newid hinsawdd a phrinder mannau gwyrdd, ar y cyd â chanlyniadau llifogydd. 
  • Gwybodaeth gynyddol am atebion SDCau: Er bod yr ymwybyddiaeth o SDCau wedi gwella rhywfaint, dangosodd y casgliadau bod lle i ddatblygu ymhellach yn y maes hwn i atgyfnerthu'r ddealltwriaeth o sut mae'r systemau hyn yn helpu i liniaru llifogydd. 
  • Cynnydd yn ymwybyddiaeth y disgyblion o’r newidiadau yn y patrymau tywydd sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd: Er bod y lefelau o ymwybyddiaeth yn uchel yn barod, gwelwyd cynnydd pellach wrth i'r myfyrwyr ddangos dealltwriaeth gryfach o sut mae patrymau tywydd yn dylanwadu ar newid hinsawdd. 

Sail gadarn ar gyfer dysgu dyfnach

Trwy wneud gwaith mapio, arolygu, a dylunio atebion gyda’r disgyblion, llwyddodd y gweithdai Trees for Cities yng Nghaerdydd i gynnwys y myfyrwyr mewn trafodaethau ystyrlon a phrofiadau dysgu ymarferol ynglŷn â rheoli dŵr yn gynaliadwy, gan arwain i welliant yn y dysgu mewn perthynas ag amcanion y prosiect. Er bod y canlyniadau’n dangos gwelliannau mewn gwybodaeth ac ymwybyddiaeth, gallai mentrau yn y dyfodol ganolbwyntio ar ddyfnhau dealltwriaeth myfyrwyr o SDCau a'u buddion tymor hir ar gyfer lliniaru llifogydd. 

Hyrwyddwyd gan bartneriaid

Diolch o galon i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNR) am ariannu'r gweithdai hyn yn rhannol. Maent yn rhan o astudiaeth ddichonoldeb SDCau sydd â'r nod o droi SDCau yn realiti mewn ysgolion. Helpodd map asesu perygl llifogydd CNR ni i benderfynu ym mha ysgolion dylem gynnal yr astudiaeth, mae i’r rhai a ddewiswyd berygl llifogydd canolig neu uchel. 

Yr Ysgolion a gynhwyswyd yn y prosiect yw Bryn Celyn/Pen-y-Groes, Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant, Ysgol Gynradd Pen-Y-Bryn, Ysgol Gynradd Cadoc Sant, ac Ysgol Gynradd Glyncoed. 

Sut rydyn ni'n gwybod hyn?

Arolygom rhwng 28 a 75 o ddisgyblion o 2-3 ysgol bartner a dyma'r canlyniadau: 
1. Cwestiwn amlddewis ar ffyrdd o leihau defnydd a gwastraff dŵr personol – cynnydd yn y rhai a ddewisodd y 3 opsiwn cywir o 36% i 56%. 
2. Cwestiwn agored yn gofyn, ‘Sut allwn ni arbed dŵr yn yr ardd?’. 
3. Cwestiwn amlddewis ar y gwahanol fathau o lifogydd – cynnydd sylweddol yn y nifer a ddewisodd y ddau ateb cywir o 17% i 51%. 
4. Cwestiwn amlddewis ar achosion llifogydd dŵr wyneb – cynnydd yn y rhai a ddewisodd 2, 3 a 4 opsiwn cywir. Gofynnwyd y cwestiwn agored ‘Pa broblemau mae llifogydd dŵr wyneb yn eu hachosi?’ i'r disgyblion hefyd. 
5. Cwestiwn amlddewis ar rôl SDCau yn lleihau llifogydd dŵr wyneb – peth cynnydd yn y nifer a ddewisodd 2 ateb cywir allan o 3 o 11-15% a neb yn dewis y 3 ateb cywir. 
6. Cwestiwn Cywir neu Anghywir ar newidiadau mewn patrymau tywydd cysylltiedig â newid hinsawdd – cynyddu o tua hanner y disgyblion yn dewis y 2 ateb cywir cyn, i 63% - 75% ar ôl.

Donate to Trees for Cities and together we can help cities grow into greener, cleaner and healthier places for people to live and work worldwide.

Donate